Nigel Owens
Fe fydd pedwar o unigolion blaenllaw yn y byd chwaraeon, celfyddydau a pheirianneg Cymru yn cael eu hanrhydeddu dros y deuddydd nesaf gan Brifysgol Abertawe.

Un o’r rheiny yw Nigel Owen, y dyfarnwr o Fynyddcerrig sydd wedi gwneud ei farc yn ddiweddar wrth gael ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Ddegawd elusen Stonewall ym mis Tachwedd, a hynny lai nag wythnos ar ôl dyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd.

Heddiw, fe fydd Nigel Owens yn derbyn LLD, Doethur mewn Cyfraith, gan Goleg y Gyfraith Prifysgol Abertawe.

 

Anrhydeddau eraill

Yn ogystal, fe fydd Sean Crowley yn derbyn DLitt, Doethur mewn Llên, am ei waith fel dyluniwr theatr a Phennaeth Cynhyrchu a Dylunio Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yfory, fe fydd yr Athro Roger D Owen yn derbyn EngD, Doethur mewn Peirianneg, am ei ymchwil a’i awdurdod rhyngwladol ar dechnegau elfen feidraidd ac arwahanol.

Yn ychwanegol at hyn, fe fydd y chwaraewr rygbi sy’n gyn aelod o dîm rygbi Cymru, Ryan Jones, yn derbyn anrhydedd. Fe fydd yn cael ei wobrwyo ag MSc, Doethur mewn Gwyddoniaeth, gan Goleg Meddygaeth a Gwyddoniaeth.

‘Cyfraniadau eithriadol’

Yn ôl datganiad gan Brifysgol Abertawe, mae’r Brifysgol yn cyflwyno’r Graddau Anrhydeddus hyn bob blwyddyn “i gydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i’r Brifysgol, y rhanbarth a Chymru.”

Caiff y seremonïau eu cynnal yn ystod pedwar Cynulliad Graddio a Gwobrwyo’r Brifysgol a gynhelir yn Neuadd Brangwyn Dinas a Sir Abertawe.