Dave Edwards yn chwarae i Wolves (llun CC2.0/Ethelred)
Fe fydd y chwaraewr canol cae Dave Edwards yn methu gemau paratoadol Cymru ar gyfer Ewro 2016 ym mis Mawrth ar ôl torri asgwrn metatarsal yn ei droed.

Dywedodd Wolves y byddai’r chwaraewr 29 oed allan am hyd at 12 wythnos gyda’r anaf, gan olygu y dylai fod yn holliach erbyn diwedd mis Ebrill.

Mae’n golygu y bydd Edwards, sydd wedi bod yn chwarae’n gyson i’w glwb yn y Bencampwriaeth eleni, yn methu gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin ymhen deufis.

Fe ddylai fod yn holliach erbyn Ewro 2016, ond fe allai diffyg ffitrwydd gyfrif yn ei erbyn pan fydd Chris Coleman yn dod at ddewis ei garfan i fynd i Ffrainc.

Mae gan Edwards dair gôl i Gymru mewn 31 o gapiau, ac roedd yn rhan o’r garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar ddiwethaf yn erbyn yr Iseldiroedd.