Tim Siapan
Fe fydd Cymru’n croesawu Siapan i Stadiwm Principality ym mis Tachwedd fel rhan o gyfres gemau’r hydref.

Dyw’r ddau dîm ddim wedi wynebu’i gilydd ers i Siapan ennill o 23-8 pan oedd Cymru ar daith yno yn 2013.

Ers hynny mae’r tîm o Asia wedi gwneud enw i’w hunain yn y byd rygbi, gan drechu De Affrica yng Nghwpan y Byd llynedd.

Bydd Cymru hefyd yn herio Awstralia, yr Ariannin a De Affrica yn ystod yr hydref.

Mae tîm Warren Gatland hefyd yn bwriadu ymweld â Seland Newydd ar gyfer cyfres o dair gêm yn ystod mis Mehefin eleni.

Gemau’r Hydref Cymru                                                    

Cymru v Awstralia (Dydd Sadwrn 5 Tachwedd) 14.30yp

Cymru v Ariannin (Dydd Sadwrn 12 Tachwedd) 17.30yp

Cymru v Siapan (Dydd Sadwrn 19 Tachwedd) 14.30yp

Cymru v De Affrica (Dydd Sadwrn 26 Tachwedd) 17.30yp