Andre Ayew, Ki Sung Yeung a Neil Taylor yn dathlu ail gôl Abertawe (llun: Peter Byrne/PA)
Gyda Gareth Bale yn absennol ag anaf mae Cip ar y Cymry yn hepgor La Liga’r wythnos hon ac yn mynd yn syth i’r Uwch Gynghrair, ble llwyddodd Abertawe i gipio buddugoliaeth o 2-1 yn Everton yng ngêm gyntaf Francesco Guidolin wrth y llyw.

Roedd Ashley Williams a Neil Taylor yn gadarn yn amddiffyn yr Elyrch, gyda Taylor hefyd yn creu ail gôl y tîm i Andre Ayew gydag ymosodiad i lawr y chwith.

Cafodd Aaron Ramsey gêm lawn wrth i Arsenal golli 1-0 gartref yn erbyn Chelsea, gan ddangos ei ddoniau a chreu cyfleoedd i’w gyd-chwaraewyr.

Doedd gwaith amddiffynnol James Collins ddim yn ddigon i gadw Sergio Aguero yn ddistaw wrth i ymosodwr Man City sgorio dwy mewn gêm gyfartal o 2-2 â West Ham.

Chwaraeodd Wayne Hennessey a Joe Ledley 90 munud yr un wrth i Crystal Palace golli 3-1 i Spurs, oedd â Ben Davies ar y fainc.

Gwylio o’r fainc hefyd oedd Joe Allen a Danny Ward wrth i gêm fwyaf cyffrous y penwythnos, Norwich yn erbyn Lerpwl, orffen yn 5-4 i’r Cochion.

Ymysg yr eilyddion oedd Andy King hefyd wrth i Gaerlŷr godi i frig y gynghrair unwaith eto gyda buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Stoke.

A doedd hi ddim yn syndod gweld James Chester ar y fainc i West Brom unwaith eto chwaith, tra bod Paul Dummett wedi methu gêm Newcastle ag anaf.

Y Bencampwriaeth

Dechreuodd Simon Church, Jonny Williams a Joe Walsh i MK Dons wrth iddyn nhw golli 3-1 i Bolton yn y Bencampwriaeth, gyda Walsh yn methu cyfle da a’r ddau arall yn cael eu heilyddio ar ôl ychydig dros awr.

Cafodd Chris Gunter a Hal Robson-Kanu gemau llawn i Reading wrth iddi orffen yn 1-1 rhyngddyn nhw a Sheffield Wednesday, oedd wedi cynnwys Lewis Price ymysg yr eilyddion.

Sgoriodd Jordan Rhodes o groesiad Adam Henley wrth i Blackburn gael gêm gyfartal 1-1 yn Charlton, gyda Morgan Fox yn chwarae gêm lawn i’r tîm cartref a Tom Lawrence yn aros ar fainc yr ymwelwyr.

Enillodd Brighton o 2-1 yn erbyn Huddersfield gyda Joel Lynch yn chwarae gêm lawn, Emyr Huws yn cael ei eilyddio ar yr egwyl i’r Terriers, ac Andrew Crofts yn dod ar y cae ar yr un pryd i’r tîm cartref.

Chwaraeodd Jazz Richards gêm lawn ac fe ddaeth George Williams oddi ar y fainc wrth i Fulham golli 1-0 gartref yn erbyn Hull, a gododd i frig y gynghrair.

Methodd Dave Edwards gyfle da gyda’i ben i ennill y gêm i Wolves wrth iddi orffen yn 1-1 rhyngddyn nhw a QPR.

Ac fe chwaraeodd Wes Burns gêm lawn unwaith eto i Bristol City wrth iddyn nhw golli 1-0 i ffwrdd yn Leeds.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban cadwodd Owain Fôn Williams lechen lân wrth i Inverness gael gêm ddi-sgôr â Partick Thistle i symud i hanner uchaf y tabl.

Ac yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Marley Watkins wrth i Barnsley chwalu Rochdale o 6-1, tra bod Tom Bradshaw wedi chwarae 87 munud wrth i Walsall gael gêm gyfartal 1-1 â Blackpool.

Seren yr wythnos – Neil Taylor. Bygythiad ymosodol i Abertawe mewn buddugoliaeth bwysig, gan wneud gwaith amddiffynnol da hefyd.

Siom yr wythnos – Joe Allen. Dim ymddangosiad oddi ar y fainc hyd yn oed er gwaethaf perfformiadau da diweddar dros Lerpwl.