Yr Arglwydd Coe, llywydd IAAF
Mae adroddiadau’n honni y bydd cwmni Adidas yn rhoi’r gorau i noddi corff llywodraethu athletau’r byd – a hynny yn dilyn y sgandal dopio diweddar.
Mae’r cwmni dillad wedi dweud wrth Gymdeithas Ryngwladol Ffederasiwn Athletau (IAAF) y bydd yn dod â’i gytundeb i ben pedair blynedd yn gynnar, yn ôl y BBC.
Daw hyn yn dilyn adroddiad beirniadol gan Asiantaeth Wrthgyffuriau’r Byd (WADA) a nodai fod Gemau Olympaidd Llundain 2012 wedi’u “tanseilio” gan dopio “wedi’u noddi” gan Rwsia.
Fe fydd y penderfyniad yn golygu colled o ddegau o filiynau i’r IAAF, sy’n cael ei arwain gan yr Arglwydd Coe.
‘Proses ddiwygio’
Fe wrthododd llefarydd ar ran Adidas wneud sylw ynglŷn â phenderfyniad y cwmni, ond fe ddywedodd, “mae gan Adidas bolisi gwrthgyffuriau clir. Am hynny, rydym mewn cyswllt cyson gyda’r IAAF i ddysgu mwy am eu proses ddiwygio.”
“Mae’r IAAF mewn cyswllt cyson â’r holl noddwyr a phartneriaid wrth inni gychwyn ar broses ddiwygio,” meddai llefarydd ar ran IAAF.
Mae’r IAAF wedi’i thraflyncu gan y sgandal dopio dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r ail adroddiad annibynnol gan WADA yn dweud, “ni allai Cyngor y IAAF fod wedi bod yn anymwybodol o faint y dopio mewn athletau a’r diffyg gorfodaeth o reolau gwrthgyffuriau perthnasol.”