S
goriodd Devils Caerdydd dair gôl mewn tair munud i sicrhau buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Fife yn y brifddinas nos Sul.

Sgoriodd Leigh Salters y gôl agoriadol toc wedi pum munud ar  ôl dechrau’r ornest, wrth i Joey Martin ychwanegu’r ail gôl lai na munud yn ddiweddarach gyda chymorth Salters ac Andrew Hotham.

Dwy funud yn ddiweddarach, cyfunodd Martin a Salters i greu trydedd gôl i’r Devils a gôl gyntaf Guillaume Doucet.

Sgoriodd y Fife Flyers wedi chwe munud o’r ail gyfnod wrth i Nico Saccetti ddarganfod y rhwyd.

Ond tarodd y Devils yn ôl bron ar unwaith i ymestyn eu mantais wrth i Hotham sgorio’r bedwaredd gôl wedi 38 munud a 35 eiliad.

Cyn diwedd yr ornest, daeth cyfle o ergyd gosb i Joey Haddad, ond cafodd yr ergyd ei harbed gan David Brown wedi 53 munud.

Cafodd Hotham ei enwi’n seren yr ornest.