Mae nifer y troseddau rhyw a thrais sydd wedi cael eu hadrodd i’r heddlu wedi codi i’w lefel uchaf erioed ers i gofnodion cyfredol ddechrau, yn ôl ffigurau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Bu cynnydd o 26,606 yn nifer y troseddau rhyw gafodd eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn flwyddyn hyd at fis Medi 2015, sy’n gynnydd o 36% ers y 12 mis blaenorol.
Roedd y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi ychydig dan 100,000 o droseddau rhyw i gyd, y ffigwr uchaf ers i’r modd cyfredol o’u cofnodi ddechrau yn 2003.
Cafodd 33,431 o achosion o dreisio eu cofnodi a 66,178 o droseddau rhyw eraill, sef cyfanswm o 99,609.
‘Gwella’r modd o gofnodi achosion’
Mae’r adroddiad yn nodi: “Mae’r cynnydd yn nifer y troseddau rhyw sy’n dod at sylw’r heddlu yn ôl pob tebyg yn debygol o ganlyniad i’r gwelliant yn y modd y mae’r Heddlu yn cofnodi achosion ac o ganlyniad i barodrwydd dioddefwyr i fynd at yr heddlu.
“Roedd y cynnydd blaenorol yn nifer y troseddau rhyw a oedd wedi dod at sylw’r heddlu yn gysylltiedig gyda’r twf mewn cofnodi achosion yn ymestyn dros ddegawdau yn dilyn Ymchwiliad Yewtree, a ddechreuodd yn 2012.”
Troseddau arfog
Yn ogystal â throseddau rhyw fe wnaeth heddluoedd Cymru a Lloegr hefyd gofnodi cynnydd o 4% mewn troseddau yn ymwneud a gynnau, y cynnydd cyntaf mewn troseddau o’r fath ers 2008.
Fe welwyd cynnydd hefyd o 9% mewn troseddau’n ymwneud a chyllyll.
A bu cynnydd o 27% yn nifer y troseddau o drais yn erbyn person, gan gynyddu o 185,666 i 885,440 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ol ffigurau’r ONS.
Roedd twyll yn ymwneud a chardiau banc hefyd wedi cynnydd 8%.
Yn gyffredinol, roedd 6% o gynnydd mewn troseddau a ddaeth i sylw’r heddlu yn 2014 – cyfanswm o 4.3 miliwn.
‘Torri addewid’
Dywedodd llefarydd Llafur ar blismona: “Mae’r Torïaid wedi torri nifer swyddogion yr heddlu o 17,000 ac wedi torri eu haddewid i’r cyhoedd y byddan nhw’n diogelu nifer y plismyn ar y rheng flaen. Rŵan, rydan ni’n gweld y cynnydd mwyaf mewn troseddau sydd wedi’u cofnodi ers degawd.”
Dywedodd y Gweinidog Mike Penning: “Mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i ostwng nifer yr achosion o drais, gan gynnwys troseddau’n ymwneud a chyllyll ac yn parhau i weithio’n agos gyda’r heddlu a sefydliadau eraill i fynd i’r afael a’r rhai sy’n cyflawni’r troseddau yma.”