Bedd Alexander Litvinenko
Yn ôl ymchwiliad cyhoeddus, roedd Arlywydd Rwsia “mwy na thebyg” wedi cymeradwyo llofruddio’r cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Alexander Litvinenko yn Llundain yn 2006.
Roedd awdur yr adroddiad, Syr Robert Owen, wedi dweud ei bod hi’n debygol fod Vladimir Putin wedi gadael i’r llofruddiaeth ddigwydd gan fod y cyn-sbïwr yn ei wrthwynebu.
Mae ei adroddiad yn dweud bod Andrei Lugovoi a Dmitri Kovtun mwy na thebyg wedi bod yn dilyn cyfarwyddiadau gwasanaeth diogelwch Moscow drwy wenwyno te Litvinenko, 43 oed, mewn gwesty yn Llundain.
Nid yw Downing Street wedi gwneud sylw am yr adroddiad eto ond mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin yn yr oriau nesaf.
Mae pryderon wedi bod y byddai cysylltu’r llofruddiaeth a Putin yn gallu rhoi straeon ar y berthynas rhwng Prydain a Rwsia, gyda theulu Alexander Litvinenko wedi galw am sancsiynau yn erbyn Moscow yn dilyn y cyhoeddiad heddiw.
Beirniadu Putin
Roedd Alexander Litvinenko wedi bod yn gweithio i wasanaethau cudd Prydain ac wedi beirniadu gwasanaeth cudd Rwsia ynghyd â Vladimir Putin.
Ar ôl symud i’r Deyrnas Unedig yn 2000, fe ymosododd ar Putin sawl gwaith yn “bersonol iawn”, gan gynnwys ei gyhuddo o bidoffilia ym mis Gorffennaf 2006.
Dywedodd y barnwr, Syr Robert Owen ei fod yn “sicr” mai Andrei Lugovoi a Dmitri Kovtun oedd wedi lladd Alexander Litvinenko. Mae’r awdurdodau yn y DU yn chwilio amdanyn nhw ond mae Rwsia yn gwrthod eu hestraddodi.
Yn ôl yr adroddiad, roedd yr ymbelydredd poloniwm 210 a gafodd ei ddefnyddio yn y llofruddiaeth yn “dangos” bod y wladwriaeth wedi bod yn gysylltiedig â’i lofruddiaeth.
Galw am waharddiadau teithio
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am wahardd y rhai fu’n rhan o’r llofruddiaeth rhag teithio ac am rewi eu hasedau.
“Cafodd dinesydd y DU ei ladd ar strydoedd Llundain â pholoniwm. Roedd yn ymosodiad ar galon Prydain, ein gwerthoedd a’n cymdeithas,” meddai Tim Farron, arweinydd y blaid.
“Galwaf ar waharddiadau teithio yn Ewrop, rhewi asedau a gweithredu cydlynol i fynd i’r afael â’r sawl a gyflawnodd y llofruddiaeth gythreulig hon.”