Heddlu Gwlad Belg ar ddyletswydd ym Mrwsel
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yng Ngwlad Belg ynglŷn â chysylltiadau posib a’r rhai sy’n cael eu hamau o gynnal ymosodiadau Paris, meddai’r awdurdodau.

Dywedodd swyddfa’r erlynwr ffederal bod dinesydd o Wlad Belg sy’n cael ei adnabod fel Zakaria J a dyn o Foroco sy’n cael ei adnabod fel Mustafa E wedi cael eu harestio ynglŷn â chysylltiadau i wahanol bobl sy’n cael eu hamau o gymryd rhan yn yr ymosodiadau.

Cafodd y ddau eu harestio ddydd Mercher yn dilyn cyrchoedd yr heddlu yn ardal Molenbeek ym Mrwsel lle mae nifer o eithafwyr wedi bod yn byw neu’n aros.

Ni chafwyd hyd i unrhyw arfau na ffrwydron yn ystod y cyrchoedd.

Cafodd 130 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd y llynedd.