Ychydig wythnosau cyn un o nosweithiau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg, mae Gwobrau’r Selar wedi cyhoeddi rhai o’u rhestrau byr cyntaf.
Y ddau gategori cyntaf sydd wedi’u datgelu yw’r ‘Record Hir Orau’, sef unrhyw albwm neu gryno albwm Cymraeg a gafodd ei gyhoeddi yn 2015 a ‘Hyrwyddwyr Gorau’, sef trefnwyr gigs gorau’r flwyddyn.
Y tair record sydd wedi dod i’r brig eleni yw Tir a Golau gan Plu, Sŵnami gan Sŵnami a Mwng gan Fand Pres Llareggub.
Y tri hyrwyddwr i gyrraedd y rhestr fer yw trefnwyr Maes B, hyrwyddwyr gigs rheolaidd 4 a 6 yng Nghaernarfon a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bron i 1,500 wedi pleidleisio
Caewyd pleidlais gyhoeddus y gwobrau cerddoriaeth gyfoes nos Wener ddiwethaf, gyda bron i 1,500 o bobol yn bwrw pleidlais dros eu hoff artist, band neu hyrwyddwr.
Mae 12 categori yn y gwobrau a bydd rhagor o restrau byr yn cael eu datgelu dros yr wythnos nesaf cyn y digwyddiad mawr yn Aberystwyth ar 20 Chwefror.
Mae disgwyl y cyhoeddiad nesaf gan gylchgrawn cerddoriaeth Y Selar nos Fercher nesaf, 27 Ionawr.
Bydd enillwyr pob categori yn cael eu datgelu noson Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Mae modd cael rhagor o wybodaeth ar ddigwyddiad Facebook y gwobrau ac mae modd prynu tocynnau fan hyn.
Mae’r siopau canlynol hefyd yn gwerthu tocynnau:
- Siop Palas Print, Caernarfon
- Siop Awen Meirion, Y Bala
- Yr Atom, Caerfyrddin
- Siop Inc, Aberystwyth
- Llên Llŷn, Pwllheli