Mae pum dyn gafodd eu harestio gan yr heddlu yn dilyn ymchwiliad i honiadau o gam-drin a chamdriniaeth o bobl ifanc mewn cyfleuster sy’n cael ei redeg gan grŵp diogelwch preifat, G4S, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y pum dyn eu harestio gan Heddlu Caint ddydd Mercher ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan fis Ebrill.

Daeth yr heddlu’n ymwybodol o’r honiadau yn dilyn rhaglen Panorama y BBC gafodd ei darlledu’r wythnos hon.

Camerâu

Honnir fod y staff yn cam-drin carcharorion yng Nghanolfan Hyfforddi Diogel Medway yn Rochester a honnir hefyd eu bod nhw wedi cael eu dal gan gamera cudd yn brolio am ddefnyddio technegau amhriodol i gadw rheolaeth ar y bobl ifanc.

Mae honiadau eraill a ddatgelwyd gan y rhaglen yn cynnwys bod staff yn ceisio cuddio eu gweithredoedd drwy sicrhau eu bod mewn rhannau o’r ganolfan oedd ddim yn cael eu gwylio gan gamerâu diogelwch.

Cafodd y tri dyn o Medway sy’n 35, 34 a 25 oed, eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plant dywedodd Heddlu Caint.

Mae dyn 25 mlwydd oed o Ddwyrain Sussex wedi cael ei arestio ar yr un cyhuddiad a dyn 28 oed o Medway ar amheuaeth o ymosod.

Diswyddo

Ar ôl darllediad Panorama, cafodd pedwar aelod o staff y ganolfan, sy’n gartref i garcharorion ifanc rhwng 12 a 18 oed, eu diswyddo gan G4S.

Mae tri aelod arall o staff wedi eu gwahardd o’r gwaith hyd nes bydd ymchwiliad pellach wedi ei gwblhau. Mae un person arall wedi cael ei dynnu oddi ar ddyletswyddau gweithredol wrth i ymholiadau barhau.

Dywedodd G4S yr wythnos hon ei fod yn croesawu’r “camau cyflym” gan yr heddlu.  Mae cyfreithwyr Leigh Day hefyd wedi cadarnhau eu bod yn delio â nifer o ymholiadau gan bobl sy’n honni eu  bod nhw wedi cael eu cam-drin sy’n ymwneud â datgeliadau Panorama.