Fe fydd dyn 53 oed o’r Fenni yn ymddangos o flaen llys heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio ar ôl i gorff mam ifanc gael ei ddarganfod mewn tŷ ym Mrynbuga.

Daethpwyd o hyd i’r corff ar ôl i’r heddlu gael eu galw i eiddo yn y dref am 5:50 fore dydd Mercher, 13 Ionawr.

Yn ol pobol leol, ei henw yw Georgina Symmonds, 25 oed.

Dyw hi ddim yn hysbys eto sut y bu farw ac mae archwiliad post mortem ar y gweill.

Yn y llys yfory

Mae ei theulu yn cael cymorth  gan Swyddogion Cyswllt Teulu arbenigol.

Fe fydd y dyn yn mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd yfory.

Dywedodd y Prif Arolygydd Roger Fortey o Heddlu Gwent: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes ar yr adeg anodd iawn yma.

“Bydd ein hymchwiliad yn ceisio darganfod beth yn union ddigwyddodd a bydd patrolau ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr ardal yn y dyddiau nesaf i roi hyder a sicrwydd i drigolion lleol.”

Nid yw Heddlu Gwent yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.