Jason Evans
Jason Evans fydd yn cymryd rhan mewn Golygothon arbennig i ddathlu carreg filltir ‘gwefan Gymraeg fwyaf poblogaidd y byd’ …

Ar 15 Ionawr bydd Wicipedia yn dathlu ei 15fed pen-blwydd. 15 mlynedd yn unig ers creu’r erthygl gyntaf, Wicipedia yw’r gwyddoniadur mwyaf ar y blaned bellach ac mae’n un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd.

Gyda degau o filiynau o erthyglau mewn bron i 300 o ieithoedd, mae miliynau o bobl yn troi at Wicipedia am bob math o wybodaeth, o fywgraffiadau o’u hoff sêr ffilm, i grefydd, gwleidyddiaeth a hanes hynafol.

Yn 2007 roedd gan y Wicipedia Cymraeg fil o erthyglau yn unig ond mae wedi tyfu’n gyflym ac erbyn hyn mae’n cynnwys yn agos at 70,000 o erthyglau gwreiddiol yn y Gymraeg.

Ffynonellau

Yr hyn sy’n gwneud y ffigurau yma yn fwy trawiadol yw’r ffaith bod erthyglau Wicipedia yn cael eu creu yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

Heb y bobl hyn ni fyddai Wicipedia yn bodoli. Fel y Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, mae dyletswydd arnaf i annog pobl i gyfrannu at y gwyddoniadur ar-lein ac i annog y Llyfrgell Genedlaethol i rannu ei chyfoeth o wybodaeth a’i chasgliadau digidol, i helpu gwneud Wicipedia yn fwy ac yn well.

Nid yw cyfrannu at Wicipedia erioed wedi bod mor hawdd. Gyda’r Golygydd Gweladwy newydd, gall unrhyw un gyfrannu.

Y cyfan sydd angen er mwyn golygu Wicipedia yw cyfrifiadur, tabled neu ffôn smart a mynediad i ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy.

Er enghraifft, os ydych yn ysgrifennu neu’n ychwanegu at erthygl am chwaraewr rygbi proffesiynol gallech gael gwybodaeth o wefan swyddogol, papur newydd neu hunangofiant.

Yn syml, ychwanegwch y wybodaeth at yr erthygl ac yna dyfynnwch eich ffynhonnell.

Y dyn eira cyntaf

Gan fod Wicipedia mor enfawr, mae hefyd yn llwyfan perffaith i rannu hanes Cymru gyda’r byd. Ers dechrau fy nghyfnod preswyl fel Wicipediwr bron i flwyddyn yn ôl, mae’r Llyfrgell wedi rhannu mwy na phum mil o ddelweddau digidol o’i chasgliadau.

Trwy rannu’r rhain gyda Wicipedia mae’r Llyfrgell yn rhyddhau’r delweddau i’r parth cyhoeddus, felly maent ar gael i unrhyw un at unrhyw ddefnydd, yn rhad ac am ddim.

O’r ffotograffau cynharaf yng Nghymru i baentiadau tirlun a llawysgrifau canoloesol, mae’r delweddau yma eisoes wedi cael eu hychwanegu at filoedd o erthyglau Wicipedia mewn 100 o ieithoedd.

Mae erthyglau sy’n cynnwys delweddau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru bellach wedi cael eu gweld mwy na 21 miliwn o weithiau. Nawr, mae’r Llyfrgell yn gobeithio rhyddhau casgliad o 100,000 o ffotograffau yn ystod y misoedd nesaf.
Delwedd dyn eira – Mae’r ffotograff cyntaf yn y byd erioed o ddyn eira ymhlith y delweddau mae'r Llyfrgell wedi eu rhannu â Wicipedia

Gwefan Gymraeg fwya’r byd

Ond pam y dylem ni fod yn cyfrannu at Wicipedia? Wel, y ffordd orau i gadw erthyglau Wicipedia yn gywir ac yn gyfredol yw cael mwy o bobl i gyfrannu.

Os ydych yn pori trwy erthygl ac yn gweld camgymeriad, waeth pa mor fach, cofiwch fod gennych y pŵer i glicio ‘golygu’, a chywiro’r camgymeriad yn syth yn y fan a’r lle.

Fodd bynnag, yr wyf yn meddwl bod pwysigrwydd y Wicipedia Cymraeg yn ymestyn llawer  ymhellach.

Dyma’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae’n rhoi mynediad i gyfoeth o wybodaeth am Gymru a’r byd trwy’r Gymraeg.

Yn ôl pob tebyg Wicipedia yw’r corff mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg a grëwyd erioed, a’r cwbl wedi ei greu gan bobl gyffredin sy’n rhoi ychydig o’u hamser i helpu i ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol.

Golygothon

Fel rhan o’m cyfnod preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol, rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau o’r enw ‘Golygothonau’, er mwyn i wirfoddolwyr ddod at ei gilydd i wella erthyglau Wicipedia ar bwnc penodol.

Rydym wedi cynnal digwyddiadau yng Ngwent, Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth, gan gynnwys golygathon Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae’r digwyddiadau wedi eu hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, gyda chymorth arbenigol wrth law.

Ers mis Ionawr diwethaf  mae cannoedd o erthyglau newydd neu erthyglau gwell wedi cael eu hychwanegu at Wicipedia yn ystod y digwyddiadau hyn, ac rydym wedi ymdrin â nifer o bynciau gan gynnwys ffotograffwyr Cymreig, Cyfreithiau Hywel Dda, Rygbi a’r Rhyfel Byd Cyntaf.


Golygothon Rygbi – Golygyddion yn gweithio’n galed yn Stadiwm y Mileniwm
I ddathlu pen-blwydd Wicipedia bydd Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal Golygathon arbennig lle gall gwirfoddolwyr wella cynnwys Wicipedia am awduron o Gymru.

Felly os ydych chi yn Aberystwyth am 10.00yb ar 15 Ionawr ymunwch â ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gwrs cyflym ar olygu Wicipedia – a darn o gacen pen-blwydd!

Mae Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.