“Mae 2016 yn flwyddyn arbennig i’r Gymraeg yn Sir Benfro,” dyna ddywedodd y Cynghorydd Huw George wrth golwg360 ar ôl i’r cyngor sir bleidleisio’n unfrydol am ysgol Gymraeg newydd 3-16 oed yn Hwlffordd.
Fel rhan o’r cynllun, bydd yr unig ysgol gynradd Gymraeg yn Hwlffordd, Ysgol Glan Cleddau’n cau ac yn ei lle bydd ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant rhwng 3-16 oed.
“Mae wedi bod yn daith hir,” meddai Huw George, sy’n aelod cabinet dros yr Iaith Gymraeg yn y sir.
“Ond nawr, mae hwn yn gyfle i agor ysgol fydd yn ateb y galw (am addysg Gymraeg) yn Hwlffordd, Aberdaugleddau, Abergwaun a Thŷ Ddewi, ac mae hynny’n bwysig iawn.”
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ddisgyblion o’r ardaloedd hyn sy’n dymuno cael addysg Gymraeg deithio mor bell â gogledd y sir, i Ysgol y Preseli am eu haddysg bob dydd.
Gobeithio agor yn 2019
Mae disgwyl i’r ysgol newydd agor “o bosib, rhywbryd yn 2019”, ac er nad oes sicrwydd eto faint o ddisgyblion fydd yn yr ysgol, mae’r Cyngor, yn ôl Huw George, yn ffyddiog y bydd hi’n ‘tyfu’n gyflym iawn, iawn’.
Does dim sicrwydd chwaith lle yn union fydd safle’r ysgol newydd, gan fod y sir wrthi’n adolygu ei hysgolion Saesneg, ac felly, mae’n bosib y bydd hi ar un o’r safleoedd hynny.
“Efallai bydd hi ar safle newydd, neu efallai bydd hi ar safle un o’r ysgolion sydd yna’n barod, does neb yn gwybod ar hyn o bryd,” meddai Huw George.
Ni fydd addysg ôl-16 oed yn yr ysgol newydd a bydd y ddarpariaeth honno’n aros yn Ysgol y Preseli, nes bydd niferoedd digonol yn yr ysgol i gynnal dosbarth chwech newydd.
Mae ysgol gynradd Gymraeg newydd wedi cael ei chymeradwyo yn Ninbych-y-Pysgod hefyd, sy’n dangos ei bod yn gyfnod da i’r iaith yn Sir Benfro, yn ôl y Cynghorydd Huw George.
Galw ar y Cyngor i fod yn ‘fwy gweithredol’
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith, fod hyn yn ‘gam yn agosach’ at gael rhagor o addysg Gymraeg yn y sir ond galwodd hefyd ar y Cyngor ei hun i fod yn ‘fwy gweithredol’.
“Gan fod datblygiadau ym maes addysg Gymraeg yn y sir mae’n bryd i’r Cyngor ei hun fod yn fwy gweithredol,” meddai Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith.
“Bydd mwy a mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael eu creu yn y sir – beth am i’r Cyngor roi mwy o werth fyth ar yr addysg Gymraeg hynny drwy ddatgan ei fod am symud i weithio drwy’r Gymraeg dros amser fel bod swyddi Cymraeg i’r plant fydd yn derbyn addysg Gymraeg?”