Mae nifer y bobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau brawychol wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, a hynny am fod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y menywod a phlant sy’n cael eu harestio.

Mae ffigurau’r Swyddfa Gartref yn dangos bod 315 o bobl wedi’u harestio yn ymwneud â brawychiaeth yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2015, sy’n gynnydd o 30% ers y flwyddyn flaenorol.

Roedd nifer y menywod a gafodd eu harestio wedi cyrraedd 50, sy’n fwy na dwbl y ffigwr y flwyddyn gynt, ac roedd nifer y plant dan 18 oed a gafodd eu harestio wedi neidio o wyth i 15.

Roedd achosion o arestio sy’n ymwneud â brawychiaeth ar lefel ryngwladol wedi cynyddu 31% hefyd.

Mae pryder cynyddol dros ferched ysgol a theuluoedd ifanc yn gadael y DU i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Erbyn hyn, mae un o bob chwe pherson sy’n cael ei arestio am droseddau brawychiaeth yn fenywaidd, ac roedd 20% o’r achosion hynny wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf.