Mae Plaid Cymru wedi croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau’r blaid i sefydlu treth ar ddiodydd llawn siwgr.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau o blaid treth ar ddiodydd llawn siwgr – ac mae’r cynnig wedi ennyn llawer o sylw gan wleidyddion ac ymgyrchwyr, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Lloegr, y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, a’r cogydd enwog, Jamie Oliver.

Cafodd cynlluniau Plaid Cymru gefnogaeth ym Mae Caerdydd ddoe gyda 38 o Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynllun ddydd Mercher, gyda 10 yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.

‘Un o’r risgiau mwyaf i iechyd cyhoeddus’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: “Fe bleidleisiodd Llywodraeth Cymru mewn egwyddor i gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr gan fod y sefydliad deddfu cyntaf ym Mhrydain i wneud hynny.”

Fe allai Llywodraeth nesaf Cymru ddefnyddio pwerau trethu newydd i gyflwyno treth ar ddiodydd pop llawn siwgr, meddai.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol i’r bwriad o gyflwyno treth o 20c y litr ar ddiodydd o’r fath, gan ddweud y gallai helpu  20,000 o bobl i golli pwysau, a lleihau nifer y bobl ordew yng Nghymru o 8,300.

Fe allai hefyd helpu i godi oddeutu £45 miliwn a allai gael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, meddai Elin Jones.

Yn ôl Elin Jones: “Mae yfed a bwyta gormod o siwgr yn un o’r risgiau mwyaf i iechyd cyhoeddus ac os nad ydym yn gweithredu, fe fydd y bygythiad yn parhau i gynyddu.”

Ychwanegodd: “Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ac wedi cefnogi ein cynigion.”

Dim gwrthwynebiad i’r dreth’

Wrth ymateb i gwestiwn gan Elin Jones AC yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: “Mae’n synhwyrol i ni edrych ar y potensial am drethi iechyd y cyhoedd a’r hyn y gallant ei ddarparu yn y dyfodol, a byddai hynny’n cynnwys trethi a allai effeithio ar ddiodydd llawn siwgr.”

Ychwanegodd: “Nid yw’r gwrthwynebiadau a fu gennym ar yr ochr hon i’r Siambr yn ymwneud â’r syniad o dreth bosibl ar ddiodydd llawn siwgr, pe baem mewn sefyllfa i godi un – ond nid ydym yn y sefyllfa honno, felly nid ydym yn esgus ein bod ni drwy ddweud y bydd gennym bolisi i wneud rhywbeth nad oes gennym y pŵer i’w wneud.

“Pe baem mewn sefyllfa i wneud hynny, byddem yn sicr yn edrych arno, ond yn bendant, yr hyn na fyddem yn ei wneud – a dyma lle y mae eich polisi yn datod o’ch blaenau – yw clustnodi elw treth o’r fath at ddiben penodol lle y byddech, er mwyn ariannu’r gwasanaeth iechyd, yn gofyn i bobl yfed mwy o’r cynnyrch rydych yn ceisio eu perswadio i yfed llai ohono.”