Dylai bomiwr Arena Manceinion, Salman Abedi, fod wedi cael ei adnabod fel bygythiad gan y rhai oedd yng ngofal diogelwch ar y noson, meddai ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiad.

Ar 22 Mai 2017, cafodd 22 o bobol eu llofruddio a channoedd o bobol eraill eu hanafu yn sgil ffrwydrad ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande.

Mewn adroddiad 196 tudalen ynghylch trefniadau diogelwch y lleoliad, dyweda Cadeirydd yr ymchwiliad fod nifer o gyfleoedd i atal, neu leihau, “effaith ddinistriol” y digwyddiad wedi cael eu methu.

Mae’n debyg y byddai Abedi dal wedi ffrwydro’r bom pe bai wedi rhywun wedi ei herio, meddai Syr John Saunders, ond “mae’n debyg iawn y byddai’r colledion a’r anafiadau wedi bod yn llai”.

Methu cyfleoedd

Am 10:31yh ar Fai 22 2017, cerddodd Salman Abedi, a oedd wedi’i eni ym Manceinion, ar draws gyntedd City Room tuag at brif ddrysau’r arena gan danio bom wrth i filoedd o bobol, gan gynnwys llawer o blant, adael y cyngerdd.

“Does wybod be fyddai Salman Abedi wedi gwneud pe bai rhywun wedi ei herio am 10:31 yh. Rydyn ni’n gwybod mai dim ond un o’r 22 a gafodd eu lladd gyrhaeddodd y City Room cyn 10:14yh. Daeth 11 o’r rhai a gafodd eu lladd drwy ddrysau cyntedd yr Arena i’r City Room ar ôl 10:30yh,” meddai Syr John Saunders.

“Dylai’r trefniadau diogelwch ar gyfer Arena Manceinion fod wedi atal neu leihau effeithiau dinistriol yr ymosodiad.

“Fe wnaethon nhw fethu â gwneud hynny.

“Cafodd nifer o gyfleoedd eu methu gan arwain at y methiant hwn.

“Dylai Salman Abedi fod wedi’i adnabod ar 22 Mai 2017 fel bygythiad gan y rhai oedd yn gofalu am ddiogelwch yr arena, a dylid bod wedi ymyrryd i’w atal.

“Pe bai hynny wedi digwydd, dw i’n ei ystyried ei bod hi’n debyg y byddai Salman Abedi wedi ffrwydro’r ddyfais beth bynnag, ond byddai’r colledion a’r anafiadau yn debyg iawn o fod yn is.”

“Dylid bod wedi gwneud mwy”

Dywedodd fod gweithredwyr yr arena, SMG, y cyflenwyr diogelwch Showsec, a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, a oedd ar ddyletswydd yn yr ardal sy’n cysylltu’r arena a gorsaf drên Fictoria “yn bennaf gyfrifol” am y cyfleoedd gafodd eu methu.

“Ar draws y sefydliadau hyn, roedd yna fethiannau gan unigolion a chwaraeodd ran yn achosi i’r cyfleoedd gael eu methu”.

“Dylid bod wedi gwneud mwy,” meddai Syr John Saunders.

“Y cyfle mwyaf amlwg a gafodd ei fethu, yr un a oedd yn debygol o fod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, oedd ymdrech Christopher Wild i ddod â’i bryderon am Salman Abedi, ar ôl iddo ei herio, at sylw Mohammed Agha.

“Roedd ymddygiad Christopher Wild yn gyfrifol iawn. Dywedodd ei fod wedi dod i’r farn y gallai Salman Abedi ‘ffrwydro bom’. Yn anffodus, roedd hynny i gyd yn rhagweledol, ac mae’n gwneud y ffaith fod dim camau effeithiol wedi’u cymryd o ganlyniad i’r ymdrechion gan Christopher Wild hyd yn oed yn fwy poenus.”

Clywodd y gwrandawiad fod wyth munud wedi mynd heibio cyn bod Mohammed Agha wedi rhannu’r pryderon gyda’i gydweithiwr, Kyle Lawler, gan nad oedd gan hwnnw radio, a doedd e ddim yn credu ei fod e’n gallu gadael ei safle.

Daeth dau arbenigwr annibynnol ar ddiogelwch i’r casgliad fod Mohammed Agha a Kyle Lawler, a oedd yn 19 ac 18 oed ar y pryd, heb eu goruchwylio nac wedi cael hyfforddiant addas.

Mae adroddiadau Syr John Saunders, sy’n manylu ar ganfyddiadau’r ymchwiliad cyhoeddus, wedi’u rhannu’n dair cyfrol.

Yn dilyn yr adroddiad hwn ar ddiogelwch, bydd un arall am yr ymateb brys a phrofiadau pob un person fuodd farw, ac yna asesiad ynghylch a ellid bod wedi atal yr hyn wnaeth Abedi.

Adroddiad ynghylch diogelwch yn Arena Manceinion am gael ei gyhoeddi heddiw

Bydd yr adroddiad yn edrych ar drefniadau diogelwch tu mewn a thu allan i’r Arena lle cafodd 22 o bobol eu lladd ar ddiwedd cyngerdd yn 2017