Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei benderfyniadau ar newid ffiniau cynghorau sir Cymru dros y misoedd nesaf.
Y gobaith ydi y bydd y gwaith wedi’i gwblhau’r erbyn Medi 2021, gyda 22 arolwg etholiadol o awdurdodau lleol Cymru angen eu cyflawni.
Mae’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AoS, yn dweud ei bod hi eisiau i’r holl newidiadau dod i rym erbyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2022.
“Mae amrywiaeth o ffactorau wedi cyfrannu at y sefyllfa bresennol lle mae cyfnod rhy hir o lawer wedi bod ers i’r ffiniau gael eu hadolygu, ac nid wyf am i 25 mlynedd arall fynd heibio cyn i newidiadau gael eu gwneud eto,” meddai mewn datganiad.
“Felly, byddaf yn rhoi cyfres reolaidd o adolygiadau ar waith, fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ardal awdurdod lleol gael ei hadolygu o leiaf unwaith bob 10 mlynedd i sicrhau bod y gynrychiolaeth ddemocrataidd yn deg.”
‘Gwell cydraddoldeb’
Wrth drafod cwblhau’r rhaglen, dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Gymru, Shereen Williams MBE: “Rydym mor hapus ein bod wedi cwblhau’r rhaglen enfawr yma o arolygon fydd yn sicrhau gwell cydraddoldeb o gynrychiolaeth ar draws Cymru.
“Hoffaf ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr arolygon yma am y ffordd maent wedi ymwneud a’r broses.
“Mae’r argymhellion rydym wedi anfon i Lywodraeth Cymru wedi eu cryfhau gan yr ymgysylltiad rydym wedi derbyn gan gymunedau lleol, cynghorwyr, a phartneriaid mewn llywodraeth leol yn fwy eang.”