Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i gyfres o ymosodiadau rhyw yn Llundain wedi cadarnhau bod ymosodiad arall yn Clapham nos Sadwrn.

Mae wyth o fenywod wedi dioddef ymosodiadau rhyw yn Clapham a Brixton yn ne Llundain yn ystod y mis diwethaf.

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Dywedodd Heddlu Llundain bod cyswllt rhwng yr holl ymosodiadau.

Yn yr ymosodiad diweddaraf, aeth dyn i fyny at ddynes oedd â’i chefn ato.

Galwodd y ddynes am gymorth ac fe redodd yr ymosodwr i ffwrdd.

Mae’r holl ymosodiadau wedi digwydd yn y tywyllwch a’r holl fenywod yn eu 20au a’u 30au.

Digwyddodd yr ymosodiad cyntaf yn Clapham ar Hydref 9 pan afaelodd dyn mewn dynes 23 oed cyn rhedeg i ffwrdd pan alwodd hi am gymorth.

Gafaelodd dyn mewn dynes 30 oed y bore wedyn wedi iddo ddechrau sgwrs gyda hi.

Ar Hydref 22, cafodd dynes 32 oed ei dilyn ar hyd stryd cyn i ddyn roi ei law i fyny ei ffrog.

Roedd tri ymosodiad nos Lun diwethaf ar fenywod 26, 28 a 35 oed.

Digwyddodd yr ymosodiad ar y ddynes 26 oed y tu allan i’w chartref.

Digwyddodd dau ymosodiad arall ar fenywod 28 a 31 oed nos Fercher.

Mae dyn 34 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Rhagfyr.

Mae dyn 30 oed a gafodd ei arestio ddydd Mawrth hefyd wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan fis nesaf.