Mae tri o bobol mewn cyflwr difrifol o hyd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws yn yr Alban.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd A78 yng ngogledd sir Ayr am oddeutu 10.10 fore Sadwrn.

Bu farw gyrrwr 53 oed y car Mercedes yn y fan a’r lle.

Mae gyrrwr 60 oed y bws a dynes 69 oed oedd yn teithio ar y bws mewn cyflwr difrifol, tra bod dyn 57 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd y tri anafiadau i’w pennau.

Cafodd saith o bobol eraill driniaeth am fan anafiadau cyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.