Mae rhybudd melyn i nifer o rannau o Gymru am niwl dros nos heno a bore fory.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai’r tywydd amharu ar y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae rhybudd mewn grym yng Nghaerdydd, Caerffili, Casnewydd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Fynwy, Powys, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg a Thorfaen.
Mae disgwyl i’r niwl bara tan amser cinio dydd Llun.