Mae nifer o newyddiadurwyr o Awstralia wedi lladd ar y dyfarnwr Nigel Owens ar ôl i Seland Newydd godi Cwpan Rygbi’r Byd yn Twickenham brynhawn Sadwrn.
Y Cymro 44 oed o Fynyddcerrig gafodd ei ddewis i ddyfarnu’r rownd derfynol yn dilyn canmoliaeth drwy gydol y gystadleuaeth – yr ail Gymro ar ôl Derek Bevan yn 1991 i dderbyn yr anrhydedd.
Gwnaeth Seland Newydd greu hanes drwy fod y wlad gyntaf i ennill y gystadleuaeth ddwy waith o’r bron.
Drannoeth buddugoliaeth Seland Newydd o 34-17 dros Awstralia, mae’r wasg wedi tynnu sylw at nifer o gamgymeriadau gan Owens a’i gyd-swyddogion.
Mae nifer yn honni bod penderfyniadau’r dyfarnwr wedi costio’n ddrud i Awstralia.
Mae’n ymddangos bod Owens a’r dyfarnwr cynorthwyol Wayne Barnes wedi methu â gweld taclau hwyr ac uchel gan Sekope Kepu ar Dan Carter, ond roedd nifer yn barod i faddau’r gwallau hynny.
Dywedodd y Sydney Daily Telegraph fod Owens yn gyfrifol am “sawl penderfyniad sâl a arweiniodd naill ai at bwyntiau i’r Crysau Duon, neu wedi amddifadu Awstralia o nifer [o bwyntiau].”
Un o brif bwyntiau trafod y gêm oedd pàs ymlaen o ddwylo Nehe Milner-Skudder i Jerome Kaino ar ôl 35 munud a gafodd ei methu gan Wayne Barnes. Aeth y gêm yn ei blaen ac fe gafodd Seland Newydd gic gosb sawl cymal wedyn.
Dywedodd sylwebyddion Fox Sports ei fod yn “benderfyniad ofnadwy, ofnadwy” ac “na ddylai ddigwydd ar y lefel yma”.
Wrth drafod penderfyniad Owens i roi cerdyn melyn i Ben Smith am godi gwrthwynebydd yn y dacl, dywedodd y Telegraph y dylai’r gŵr o Seland Newydd fod wedi cael ei drin yn fwy hallt.
Roedd y dacl yn debyg i’r un a arweiniodd at anfon Sam Warburton oddi ar y cae yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2011.
Ymhlith y penawdau eraill a ymddangosodd yn y papurau newydd roedd “Referee punishes the Wallabies in World Cup final”.
Yn y cyfamser, mae’r wasg yng ngwledydd Prydain wedi canmol Owens wrth i’r Sunday Telegraph ddweud ei fod “wedi gadael i’r gêm lifo”.
Wrth drafod y bàs ddadleuol gan Milner-Skudder i Jerome Kaino, fe ddywedodd y Telegraph mai Barnes oedd ar fai am y penderfyniad.
Ddydd Sul, mae Nigel Owens wedi trydar i ddweud mai hon oedd y “Cwpan Rygbi’r Byd gorau erioed”, gan ddiolch i’r timau, y chwaraewyr, y cefnogwyr a’r gwirfoddolwyr.