Abertawe 0–3 Arsenal
Sgoriodd Arsenal dair gôl ail hanner wrth drechu Abertawe yn gyfforddus ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe sgoriodd Giroud, Koscielny a Campbell i gyd yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr o Lundain.
Blaenwr Abertawe, Bafetimbi Gomis, a gafodd gyfle gorau’r hanner cyntaf ond aros yn ddi sgôr wnaeth hi cyn i Arsenal reoli’r ail gyfnod.
Olivier Giroud roddodd hwy ar y blaen gyda pheniad o groesiad Mezut Ozil, cyn i Laurent Koscielny fanteisio ar gamgymeriad Lucasz Fabianski i ddyblu’r fantais.
Sicrhaodd Joel Campbell y tri phwynt gyda’r drydedd gôl ddeunaw munud o’r diwedd, yn gorffen yn gelfydd yn dilyn rhagor o waith creu rhagorol gan Ozil.
Mae’r canlyniad yn cadw Arsenal yn ail ac Abertawe yn drydydd ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Shelvey, Ki Sung-yueng (Britton 85′), Ayew, Sigurdsson, Montero (Barrow 79′), Gomis (Éder 85′)
Cardiau Melyn: Ki Sung-yueng 57’, Williams 89’
.
Arsenal
Tîm: Cech, Bellerín, Mertesacker, Koscielny, Monreal, Coquelin, Cazorla, Campbell (Gibbs 84′), Özil (Iwobi 93′), Sánchez, Giroud (Chambers 84′)
Goliau: Giroud 49’, Koscielny 68’, Campbell 73’
.
Torf: 20,937