Ipswich 0–0 Caerdydd                                                                      

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Caerdydd wrth iddynt deithio i Portman Road i wynebu Ipswich yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Ipswich oedd y tîm gorau mewn hanner cyntaf diflas. Gwnaeth David Marshall yn y gôl i Gaerdydd ddau arbediad da, i wyro ymdrech Daryl Murphy yn erbyn y postyn i ddechrau, ac yna i atal Sean Morrison rhag sgorio i’w rwyd ei hun.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ond methodd Sammy Ameobi a Craig Noone gyfleoedd da i’w hennill hi i’r ymwelwyr o Gymru.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Ipswich

Tîm: Gerken, Chambers, Smith, Berra, Parr, Maitland-Niles (Oar 81′), Skuse, Bru, Sears, McGoldrick, Murphy (Pitman 81′)

Cardiau Melyn: Smith 45’, Bru 79’, Skuse 87’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Fabio (Malone 31′), Ameobi (Noone 76′), Gunnarsson, Whittingham (Pilkington 88′), Ralls, Revell, Mason

Cardiau Melyn: Ameobi 11’, Connolly 34’, Ralls 43’, Revell 82’, Wittingham 85’

.

Torf: 17,169