Casnewydd 2–2 Northampton
Tarodd Casnewydd nôl i gipio pwynt yn erbyn Northampton ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond yn ôl y daeth Casnewydd gan unioni cyn yr egwyl a dal eu gafael i gipio pwynt yn erbyn tîm a ddechreuodd y dydd yn bedwerydd yn nhabl yr Ail Adran.
Deg munud oedd ar y cloc pan roddodd Sam Hoskins yr ymwelwyr ar y blaen cyn i Marc Richards ddyblu’r fantais wedi hanner awr gydag ergyd dda yn dilyn cic rydd Nicky Adams.
Munud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i Scott Barrow dynnu un yn ôl gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi.
Roedd Casnewydd yn gyfartal wedyn saith munud cyn yr egwyl, Barrow yn creu y tro hwn a Lenell John-Lewis yn rhwydo.
Di sgôr oedd yr ail hanner wrth i Gasnewydd gadw eu gafael ar y pwynt sydd yn ddigon i’w codi i’r unfed safle ar hugain yn nhabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Donacien, Bennett, Partridge, Barnum-Bobb, Byrne, Elito, O’Sullivan (Klukowski 87′), Barrow, Ansah (Boden 72′), John-Lewis (Collins 90′)
Goliau: Barrow 31’, John-Lewis 38’
Cardiau Melyn: Barrow 63’, Partridge 90’
.
Northampton
Tîm: Smith, Furlong, McDonald, Diamond, Buchanan, Calvert-Lewin (Potter 54′), O’Toole, Adams, Byrom (Taylor 58′), Richards, Hoskins (Watson 68′)
Goliau: Hoskins 10’, Richards 30’
.
Torf: 2,424