Wrecsam 4–1 Barrow
Sgoriodd Connor Jennings ac Wes York ddwy gôl yr un wrth i Wrecsam gael buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Barrow ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Eiliadau yn unig o’r hanner cyntaf oedd ar ôl pan agorodd Jennings y sgorio o bas Jamal Fyfield.
Roedd Jennings yn ei chanol hi eto pan ddyblwyd y fantais toc cyn yr awr, yn creu y tro hwn i York.
Rhoddodd David Symington lygedyn o obaith i Barrow gyda chwarter awr i fynd ond buddugoliaeth gyfforddus oedd hi i Wrecsam yn y diwedd diolch i gôl arall yr un i Jennings a York.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r chweched safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Vidal (Hudson 67′), Smith, Evans (Gray 46′), Newton, Fyfield, Carrington, Nolan, York (Jackson 95′), Jennings, Vose
Goliau: Jennings 45’, 90’, York 58’, 78’
Cerdyn Melyn: Carrington 59’
.
Barrow
Tîm: Dixon, G. Williams, Livesey, Haworth, Ashton (Khan 20′), Mellor (Harvey 77′), Williams, Cowperthwaite, Symington, Newby (Grimes 68′), Cook
Gôl: Symington 74’
Cardiau Melyn: Haworth 34’, G. Williams 71’, Symington 77’
.
Torf: 3,892