Zebre 26–15 Gleision
Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt deithio i’r Stadio Sergio Lanfranchi i herio Zebre yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd y Gleision gweir iawn i’r Eidalwyr ar Barc yr Arfau lai na dau fis yn ôl, ond stori wahanol iawn oedd hi ym Mharma y tro hwn wrth i Zebre ennill gyda phwynt bonws.
Tri munud yn unig oedd ar y cloc pan groesodd yr asgellwr cartref, Kayle Van Zyl, am gais cyntaf y gêm.
Roedd hi’n gyfartal o fewn dim yn dilyn cais Adam Thomas i’r Gleision, ond roedd yr Eidalwyr yn ôl ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae diolch i gais Andries Van Schalkwyk a throsiad Carlo Canna.
Ymestynnodd Johan Meyer fantais Zebre gyda thrydydd cais ei dîm, 19-5 y sgôr wedi trosiad Canna gyda dim ond hanner awr wedi mynd.
Rhoddodd Rhys Patchell lygedyn o obaith i’r ymwelwyr o Gymru gyda chic gosb cyn yr egwyl ac roedd y Gleision yn ôl yn y gêm toc cyn yr awr diolch i gais Tom James a throsiad Patchell.
Rhoddodd hynny y Gleision o fewn pedwar pwynt gyda chwarter y gêm ar ôl ond sicrhaodd ail gais Van Schalkwyk bum munud o’r diwedd, nid yn unig y fuddugoliaeth i Zebre, ond pwynt bonws i’r Eidalwyr hefyd.
.
Zebre
Ceisiau: Kayle Van Zyl 3’, Andries Van Schalkwyk 15’, 75’, Johan Meyer 28’
Trosiadau: Carlo Canna 16’, 29’, 76’
.
Gleision
Ceisiau: Adam Thomas 7’, Tom James 57’
Trosiad: Rhys Patchell 58’
Cic Gosb: Rhys Patchell 33’