Mae’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn paratoi am gêm bwysicaf ei yrfa, yn dyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd rhwng Crysau Duon Seland Newydd ac Awstralia yn Twickenham.

Er mwyn nodi’r achlysur, mae pentrefwyr Mynydd Cerrig yng Nghwm Gwendraeth, ble mae’n byw, wedi gosod baneri ar y strydoedd yn dymuno’n dda iddo.

Ond mae dymuniadau da yn llifo i mewn ar wefan gymdeithasol Twitter hefyd, gyda neb llai na chapten tim rygbi Cymru, Sam Warburton, yn ei longyfarch. ‘Llongyfarchiadau ar dy apwyntiad yn ddyfarnwr i’r ffeinal, haeddiannol iawn’, meddai, tra bod cyflwynwraig rhaglen gylchgrawn Heno, Angharad Mair yn dymuno ‘pob lwc’.

Enw adnabyddus arall yw Sian Lloyd, a yrrodd neges syml yn dweud, ‘Llongyfarchiadau gwresog’.

Fe anfonodd y ffermwr mynydd adnabyddus o Lanfairfechan, Gareth Wyn Jones, hefyd neges ato yn dweud “class act Llongyfarchiadau ti yn #topman pob lwc Dydd Sadwrn”.

Ac ymhlith y cyfarchion eraill, talodd ymgeisydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor deyrnged iddo am gyrraedd yr uchelfannau yn ei broffesiwn. “Llongyfarchiadau i ti Nigel! Dy genedl, dy gymuned, dy deulu yn browd iawn ohonot! Ti’n haeddu pob clod. Chuffed drosto ti :)”