Blodau'n cael eu gosod wrth yr ysgol (Andrew Milligan Gwifren PA)
Mae’r heddlu yn dal i holi disgybl 16 oed ar amheuaeth o drywanu disgybl arall i farwolaeth mewn ysgol uwchradd yn Aberdeen
Fe fydd yr ysgol ynghau am weddill yr wythnos ac mae’r gwasanaeth addysg lleol yn cynnig cymorth a chyngor i ddisgyblion.
Fe fydd yr heddlu yno hefyd am “gyfnod amhenodol” – y gred yw fod y lladd wedi digwydd yn un o goridorau’r ysgol.
Dyw Heddlu’r Alban ddim wedi cyhoeddi enw’r bachgen yn ond mae adroddiadau lleol yn dweud mai ei enw oedd Bailey Gwynne.
Does dim manylion chwaith am y digwyddiad ei hun ond mae’n ymddangos mai cael ei drywanu a wnaeth Bailey Gwynne.
‘Disgybl tyner’
Dywedodd prifathrawes yr ysgol Ann Muirhead fod y gymuned yn yr ysgol wedi dychryn.
“Mae’r staff a’r disgyblion mewn sioc llwyr. Roedd yn ddisgybl tyner a gofalgar. Ar hyn o bryd, mae ein meddyliau gyda theulu’r bachgen a’i ffrindiau sy’n mynd trwy amser trasig.”
Mae blodau wedi cael eu gosod ar gatiau’r ysgol i dalu teyrnged i’r bachgen.
Dywedodd Gweinidog y plwyf Rev Ewen Gilchrist, “Pan ddaeth y newyddion o’r ysgol am yr hyn a ddigwyddodd, mae’n deg i ddweud bod yna deimlad o fethu â chredu.”