Protest TUC yn erbyn y Mesur (Llun o wefan y TUC)
Mae tri o’r undebau llafur mwya’ wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymgyrchu gyda nhw yn erbyn y Mesur Undebau Llafur sy’n mynd gerbron Tŷ’r Cyffredin.

Maen Unison Cymru, y GMB ac Unite yn dweud y byddai cynigion Llywodraeth Prydain yn mynd yn groes i draddodiadau Cymru ac yn tawelu llais miliynau o weithwyr.

“Mae’r Mesur yma’n ymosodiad amlwg ar undebau llafur,” meddai Dominic MacAskill, pennaeth adral Llywodraeth Leol undeb UNISON Cymru.

Mae cynrychiolwyr cynghorau sir Cymru hefyd yn cefnogi’r alwad, o gyfeiriad cyflogwyr.

Y feirniadaeth

Fe fyddai’r mesur newydd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i undebau llafur weithredu’n ddiwydiannol, gan osod trothwy uwch ar gyfer pleidleisio.

“Mae’n groes i’n traddodiadau yng Nghymru ac mae cyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus wedi sgrifennu at y Llywodraeth i ddatgan eu gwrthwynebiad i’r Mesur. Rhaid iddo gael ei ddileu,” meddai Dominic MacAskill.

“Mae’r newidiadau hyn yn cael eu gosod heb ddim tystiolaeth bode u hangen neu y byddan nhw o unrhyw les i’r berthynas ddiwydiannol rhwng cyflogwyr a’u hundebau llafur,” meddai Peter Rees, llefarydd cyflogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Roedd yn honni bod anghydfod rhwng awdurdodau lleol ac undebau yng Nghymru yn brin iawn.

  • Fe fydd Cyngres yr Undebauy Llafur – y TUC – yn cynnal lobi yn San Steffan yr wythnos nesa’.