Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i lanc 15 oed gael anafiadau difrifol i’w ben wedi iddo gael ei daro gan gar yr heddlu yn Stockport neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 26).

Fe ddigwyddodd am oddeutu 9.30yh, yn ôl llefarydd ar ran Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Roedd yr heddlu’n ymateb i alwad frys am ddigwyddiad domestig pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.