Bydd yr SNP yn pleidleisio yn erbyn bargen Brexit Boris Johnson mewn pleidlais yn San Steffan ddydd Mercher (Rhagfyr 30), yn ôl Ian Blackford, arweinydd y blaid yn San Steffan.

Yn ôl Blackford, byddai’r fargen yn “drychineb” i’r Alban ac mae’n “weithred anfaddeuol o fandaliaeth economaidd a thwpdra difrifol”.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o fradychu pysgotwyr y wlad.

Ond yn ôl Alister Jack, Ysgrifennydd yr Alban, mae’r fargen yn darparu ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig a dylai aelodau seneddol roi eu “cefnogaeth lwyr” iddi.

Y fargen

Yn ôl Ian Blackford, mae’n “fargen wael iawn i’r Alban”.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r holl fanylion gael eu cyhoeddi ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 26).

Bydd y fargen yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio ar Ragfyr 31, wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth yr Alban yn darogan y gallai’r fargen gostio mwy na £9bn i economi’r Alban erbyn 2030 o gymharu â’r gost pe bai Prydain yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae darogan hefyd y gallai Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ostwng 6.1% – sy’n gyfystyr â cholli £1,600 y pen.

“Mae’r Alban wedi cael ei hanwybyddu’n llwyr gan San Steffan drwy gydol y broses Brexit ac rydym yn cael ein gorfodi i dalu pris trychinebus,” meddai Ian Blackford.

“Mae’n glir mai’r unig ffordd o warchod buddiannau’r Alban, ac o adennill holl fuddiannau aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yw dod yn wlad annibynnol.

“Mae hon yn fargen wael iawn i’r Alban, a fydd yn terfynu ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yn ein rhwygo ni allan o farchnad sengl ac undeb dollau fwya’r byd, yn rhoi terfyn ar ein hawl i symud yn rhydd, ac yn cyflwyno pentwr o dâp coch, costau ychwanegol a rhwystrau i fasnach i fusnesau’r Alban.

“Mae’r bai ar y llywodraeth Dorïaidd yn llwyr.

“Bydd diwydiannau a chymunedau ledled yr Alban yn wynebu costau uwch a llai o fynediad i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd.

“Bydd buddiannau aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys ein hawl i fyw, gweithio ac astudio ledled Ewrop yn cael eu rhwygo i ffwrdd.

“Bydd cydweithio ar gyfiawnder a diogelwch yn cael ei leihau.

“Mae’r addewidion a gafodd eu gwneud i’n cymunedau pysgota a’u torri yn gelwyddau llwyr gan y Torïaidd yn y pen draw.”

Llafur

Mae Ian Blackford hefyd wedi beirniadu’r Blaid Lafur ar ôl iddyn nhw ddweud y byddan nhw’n cefnogi’r fargen yn y bleidlais yn San Steffan.

“Gyda’r Blaid Lafur yn sefyll y tu ôl i Boris Johnson, mae’n glir y bydd San Steffan yn cyflwyno’r Brexit Torïaidd caled hwn waeth bynnag sut mae’r Alban yn pleidleisio, ond dydy hi ddim yn cael ei gwneud yn ein henw ni.

“Mae’n drychineb i’r Alban.”