Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio tri o bobol ac anafu tri arall yn dilyn achos o saethu yn nhalaith Illinois yn yr Unol Daleithiau.

Fe ddigwyddodd mewn canolfan fowlio yn Rockford neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 26).

Cafodd Duke Webb, 37, ei gludo i’r ddalfa yn fuan wedi’r digwyddiad.

Dynion 65, 69 a 73 oed yw’r rhai fu farw.

Cafodd dyn 62 oed anafiadau difrifol, a chafodd bachgen 14 oed a merch 16 oed driniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael eu saethu.