Mae rhannau o fargen Brexit sy’n ymwneud â mynediad i ddyfroedd pysgota yn torri addewid blaenorol Ceidwadwyr yr Alban i warchod y dyfroedd tan Fehefin 20, 2026, yn ôl yr SNP.

Ond mae Llywodraeth Prydain yn dweud bod yr SNP yn euog o “ragrith syfrdanol” gan eu bod nhw wedi cefnogi cytundeb i sicrhau bod yr Alban yn dychwelyd i Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Gweinidogion Llywodraeth Prydain, bydd cwota pysgota’r Deyrnas Unedig yn codi yn ystod y “cyfnod o addasu” o bum mlynedd, ac fe fydd rheolaeth lawn wedi’r cyfnod hwnnw.

Fis Tachwedd 2018, llofnododd 13 o Geidwadwyr yr Alban lythyr yn galw am “reolaeth a sofraniaeth lawn dros ddyfroedd Prydain” fel rhan o fargen Brexit.

Yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, “all neb yn yr Alban fyth eto gredu’r un gair mae’r Torïaid yn ei ddweud”.

Mae’n cyhuddo’r blaid o “dwyllo” pobol.

“Fe ddywedon nhw fod rhaid negodi ynghylch mynediad a chwotâu â’r Undeb Ewropeaidd yn flynyddol heb fod unrhyw gytundeb eisoes yn bodoli ac mewn grym,” meddai.

“Ond wrth dorri addewid mewn modd syfrdanol, mae Llywodraeth Prydain Boris Johnson wedi llofnodi bargen sy’n sicrhau mynediad hirdymor ar gyfer cychod yr Undeb Ewropeaidd.

“Dywedon nhw fod ‘clymu pysgota wrth fargen fasnach’ yn llinell goch na ellid ei chroesi.

“Ond dyna’n union maen nhw wedi ei wneud.”

‘Gorfodi Brexit ar yr Alban’

Aeth yn ei flaen i ddweud bod Llywodraeth Prydain “wedi gorfodi Brexit ar yr Alban”, ac y byddai hynny’n “golygu ergyd enfawr i’r economi ehangach a swyddi yng nghanol pandemig a dirwasgiad”.

“Mewn Alban annibynnol, byddai gennym sedd ar y prif fwrdd gyda Llywodraeth yr Alban yn brwydro er ein lles ni yn Ewrop,” meddai wedyn.

“Mae torri addewidion Douglas Ross, Alister Jack a David Dugiud yn gwbl anfaddeuol a rhaid eu dwyn i gyfrif.”

Ymateb Llywodraeth Prydain

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud bod yr SNP yn euog o “ragrith syfrdanol”.

“Rydyn ni wedi cytuno ar fargen sy’n mynd â ni allan o’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sy’n cael ei gasáu, yn adfer ein statws fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol ac yn sicrhau cynnydd mawr yn ein cyfran ni o’r [pysgod sy’n cael eu] dal yn ein dyfroedd ein hunain,” meddai ffynhonnell o fewn y Llywodraeth.

“Ymhellach, byddwn ni’n buddsoddi £100m yn ein diwydiant pysgota i’w helpu i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn.

“Y cwestiwn i’r SNP yw – a fyddan nhw’n cefnogi’r fargen wych hon i’r Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan?

“Neu a fyddan nhw’n pleidleisio yn ei herbyn ac yn cefnogi Brexit heb gytundeb?”