Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn dweud y gall bargen Brexit uno gwledydd Prydain – er gwaethaf rhybuddion gan felin drafod am yr economi, hawliau gweithwyr a’r amgylchedd.

Yn ôl Sunak, does dim diben “ailagor” y dadleuon a gododd bedair blynedd yn ôl adeg refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud bod y bargen yn “eiliad enfawr o uno i’n gwlad a dod â phobol ynghyd”, a hynny yn dilyn “rhaniadau’r blynyddoedd diwethaf”.

“Dw i’n credu y bydd pobol wastad sydd eisiau ailagor dadleuon pedair blynedd yn ôl ond dw i ddim yn meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud,” meddai.

“Mewn gwirionedd, dw i’n meddwl y gall y fargen hon gynrychioli eiliad enfawr o uno i’n gwlad a dod â phobol ynghyd ar ôl rhaniadau’r blynyddoedd diwethaf.

“I’r sawl oedd wedi pleidleisio dros adael, mae’r fargen yn golygu y bydd gennym y rhyddid yr oedd pobol yn ei geisio, rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau, ein masnach.

“Ond i’r sawl oedd yn bryderus am oblygiadau economaidd gadael, dylen nhw gael eu sicrhau gan natur gynhwysfawr y fargen fasnach rydd hon sy’n sicrhau mynediad heb dariffau a chwotâu i fusnesau Prydeinig i’r farchnad Ewropeaidd, gan sicrhau’r berthynas economaidd agos honno ac, yn hollbwysig, fod swyddi Prydeinig yn cael eu gwarchod.”

Rhybudd

Serch hynny, mae’r felin drafod IPPR yn rhybuddio am ddyfodol ansicr i’r economi, hawliau gweithwyr a’r amgylchedd yn sgil y fargen.

Mae hawliau gweithwyr a’r amgylchedd yn y fantol, yn ôl yr IPPR, sydd hefyd yn rhybuddio y gallai twf economaidd gael ei arafu.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y broses o sicrhau nad yw’r rheoliadau newydd yn cael eu torri mor anodd i’w gweithredu fel na fydd awdurdodau’n cadw llygad barcud arnyn nhw.

“Mae’r fargen denau hon yn well na dim bargen o gwbl, ond mae’n dal i greu rhwystrau enfawr o ran masnachu gyda’n cymydog agosaf a fydd yn llesteirio twf ac yn arafu’r adferiad economaidd,” meddai Marley Morris, cyfarwyddwr yr IPPR sy’n arbenigo mewn masnach a chydberthnasau â’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r warchodaeth mae’n ei chynnig o ran safonau llafur ac amgylcheddol hefyd yn syfrdanol o wan ac yn ymddangos fel pe baen nhw’n gadael cryn dipyn o sgôp i Lywodraeth Prydain wanhau gwarchodaeth sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae hyn yn gadael gwarchodaeth i weithwyr, yr hinsawdd a’r amgylchedd mewn perygl difrifol o gael eu herydu.”