Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi apelio am gymorth gan fyfyrwyr meddygol er mwyn gallu ymdopi â’r pwysau ychwanegol ar wasanaethau.

Maen nhw hefyd am glywed gan staff meddygol eraill all gynnig cymorth rhwng 9yb a 5yh dros y dyddiau i ddod, ac mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys y gallu i drin cleifion coronafeirws gan ddefnyddio dulliau arbennig.

Does dim gwlâu gofal dwys ar gael gan y bwrdd iechyd ers Rhagfyr 20.

Mae dros 2,300 o gleifion coronafeirws bellach yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yng Nghymru.

Doedd dim ffigurau dyddiol ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (dydd Nadolig).

“Mae ein Hadran Gofal Critigol yn ceisio cymorth brys gan fyfyrwyr meddygol neu grwpiau staff eraill sydd wedi cynorthwyo cyn hyn â gorwedd cleifion wyneb i waered,” meddai’r bwrdd iechyd wrth apelio,” meddai’r apêl.