Mae casgliad newydd o stampiau’n cynnwys parciau cenedlaethol Eryri ac Arfordir Penfro.

Mae’r casgliad yn dathlu 70 mlynedd ers sefydlu’r parciau cenedlaethol cyntaf yn 1951, gan dynnu sylw at bob math o dirluniau – o’r mynydoedd i’r moroedd.

Maen nhw’n cael eu disgrifio fel llefydd lle bu pobol yn byw, gweithio, addoli, ffermio a masnachu ers canrifoedd.

Cafodd y parciau cenedlaethol eu sefydlu ar ôl degawdau o ymgyrchu i sicrhau bod cefn gwlad yn hygyrch i bobol gyffredin, ac fe gawson nhw eu sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd ynghyd â’r Gwasanaeth Iechyd.

Roedd Eryri ymhlith y pedwar parc cyntaf i’w sefydlu, ynghyd â’r Peak District, y Llynnoedd a Dartmoor.

Bryd hynny, roedd yn anghyfreithlon crwydro ar diroedd preifat a châi pobol eu carcharu am droseddau o’r fath.

Bydd y stampiau ar werth o Ionawr 14, ac yn cael eu gwerthu ar wefan y Post Brenhinol ac yn swyddfeydd y post ledled gwledydd Prydain.