Mae disgwyl gwyntoedd cryfion o hyd at 80m.y.a. mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 27).

Gallai rhannau o’r de brofi gwyntoedd o hyd at 70m.y.a. o ganlyniad i Storm Bella.

Fe gyrhaeddodd y gwyntoedd gyflymdra o 83m.y.a. yn Aberdaron yn y gogledd neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 26), ac mae rhybudd melyn mewn grym mewn rhai ardaloedd yng Nghymru heddiw, a’r darogan yw y bydd y gwyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o hyd at 60m.y.a. mewn rhannau helaeth o’r wlad.

Yn gynnar fore heddiw, fe gyrhaeddodd y gwyntoedd gyflymdra o 72m.y.a. yn y Mwmbwls ger Abertawe, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae chwe rhybudd melyn arall mewn grym ar draws y wlad heddiw, a’r gred yw y gallai eira a rhew daro heno a bore fory (dydd Llun, Rhagfyr 28).

Mae pobol yn cael eu cynghori i wirio’r rhybuddion cyn mentro allan.

Yn ôl Western Power, mae hyd at 1,000 o gartrefi wedi bod heb drydan yn y de, gan gynnwys 480 yn Sir Fynwy.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion am lifogydd ym Mhowys, Sir Fynwy a Sir Benfro.