Mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartre’r Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud bod angen cytundeb Brexit ar y Deyrnas Unedig.

Mae’n dod yn fwy tebygol erbyn hyn y gallai’r trafodaethau diweddaraf ddod i ben heb gytundeb a bydd aelodau seneddol yn pleidleisio yfory (dydd Llun, Rhagfyr 7) i benderfynu a fyddan nhw’n gwyrdroi gwelliannau’r Arglwyddi sy’n tynnu gofynion Bil y Farchnad Fewnol allan o ddeddfwriaeth er mwyn gwarchod ffiniau Iwerddon.

Ond mae Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Torfaen, yn gwrthod dweud sut fydd aelodau’r Blaid Lafur yn pleidleisio ar unrhyw gytundeb.

“Yn amlwg, mae angen i ni weld beth sydd wedi cael ei gytuno,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Dw i’n credu mai dyna’r safbwynt synhwyrol a chyfrifol.

“Ond gadewch i ni obeithio’n fawr fod yna gytundeb oherwydd mae’n ymddangos bod dau lwybr o’n blaenau ar hyn o bryd – llwybr sy’n gadael y cyfnod pontio heb gytundeb a gadael heb gytundeb, ac rydym yn gwybod pa mor ddinistriol fyddai canlyniadau gadael heb gytundeb.”

Dywedodd mai’r peth “cyfrifol” fyddai ystyried unrhyw gytundeb sy’n dod i law.

“Dydyn ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd yn cael ei gyflwyno i’r Senedd, mewn gwirionedd,” meddai wedyn.

“Ai’r cytundeb fel y mae wedi’i gytuno fydd e?

“Ai darn o ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r cytundeb ar waith yn gyfreithiol fydd e, a bod rhaid i ni ystyried hynny hefyd?”

Dydy e ddim wedi wfftio’r posibilrwydd y gallai aelodau’r blaid atal eu pleidlais, gan ddweud bod yna “opsiynau amrywiol” ar gael.