Mae’r Deyrnas Unedig mewn £2.06tn o ddyled, sy’n uwch nag erioed o’r blaen, yn ôl data newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Fe wnaeth y sector gyhoeddus fenthyg £36.1bn ym mis Medi, gan wthio’r gymhareb dyled i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) i’r lefelau uchaf ers 1960.

Roedd hyn £28.4bn yn fwy na’r un mis flwyddyn yn ôl a dyma’r trydydd mis uchaf o fenthyg ers i gofnodion ddechrau yn 1993.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth fod wedi gwario £77.8bn ar weithgareddau dydd i ddydd ym mis Medi, £18.1bn yn fwy na Medi 2019, gan gynnwys £4.9bn ar y cynllun ffyrlo a £1bn ar daliadau cynllun cefnogaeth hunan-gyflogedig.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn amcangyfrif bod y Llywodraeth wedi benthyg £208.5bn yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn ariannol, Ebrill i Fedi, sydd £174.5bn yn fwy na’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.

Ychwanegodd fod pob mis wedi gosod record newydd.

“Dw i wedi bod yn glir mai ein blaenoriaeth drwy gydol y pandemig yw gwarchod gymaint o swyddi a busnesau ag sy’n bosibl,” meddai’r Canghellor Rishi Sunak.

“Dros amser ac wrth i’r economi adfer, bydd y Llywodraeth yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir cyllid cyhoeddus.”