Mae Mark Drakeford yn gofidio y bydd ffigyrau Ceidwadol yn benderfynol o “gwtogi” ar bwerau’r llywodraethau datganoledig ar ben arall yr argyfwng coronafeirws.
Mae prif weinidog Cymru wedi rhannu ei farn â’r Financial Times mewn darn diweddar ynghylch yr undeb a Covid-19.
Trwy gydol yr argyfwng, mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi bod yn cyhoeddi rheolau unigryw er mwyn delio â’r feirws.
Ac mae’r prif weinidog yn pryderu bod gwleidyddion Ceidwadol wedi sylwi ar bŵer y llywodraethau yma am y tro cyntaf – a’u bod nhw’n debygol o geisio sathru ar hynny.
“Dw i’n credu bod y coronafeirws wedi gwneud i rai ffigyrau gwleidyddol Ceidwadol [deimlo] mai camgymeriad ofnadwy oedd caniatáu datganoli yn y lle cynta,” meddai.
“Dyma’r bobol sydd erioed wedi gorfod poeni amdano yn ormodol ac yn awr, maen nhw wedi sylwi arno, maen nhw wedi’u harswydo.
“Felly dw i’n credu, heb os, mi fydd pobol yn cyrraedd pen arall y profiad yma, ac mi fyddan nhw’n credu bod yn rhaid cwtogi pwerau’r llywodraethau datganoledig er mwyn atgyfnerthu awdurdod Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
Michael Gove yn cwympo ar ei fai
Mae gweinidogion Cymru wedi cael trafferth yn ystod yr argyfwng wrth ohebu â gweinidogion San Steffan, ac maen nhw wedi rhannu eu rhwystredigaeth ynghylch hynny sawl gwaith.
Dyw sawl un o lythyron y gweinidogion heb gael eu hateb, ac mae diffyg cyfarfodydd yn destun cryn anfodlonrwydd.
Mae’r darn yn dyfynnu Michael Gove, un o weinidogion blaenaf San Steffan, ac mae’n cydnabod fod yr argyfwng wedi bod yn “broses o ddysgu”.
“Mae’n codi cwestiwn ehangach, nid am ddwyn pŵer, ond am sicrhau bod y drefn ddatganoledig yn gweithio,” meddai.
Mae’n debyg ei fod yn ceisio cyflymu adolygiad i strwythurau rhyng-llywodraethol, a fydd yn rhoi “sail fwy cadarn” i’r berthynas.
“O’n safbwynt ni, dylem fod wastad wedi, a dylem barhau, i’w cynnwys mewn mwy o drafodaethau,” meddai.
“Y mwya’ o ymddiriedaeth a ddangosir adeg argyfwng, y lleia’ tebygol yw hi y bydd tensiwn, dryswch, a chamddealltwriaeth.”
Wfftio newid i’r drefn
Yn ddiweddarach yn y darn, mae’n wfftio’r posibilrwydd o ddiwygio’r drefn fel bod gan lywodraethau datganoledig mwy o ddylanwad pan gaiff penderfyniadau eu gwneud.
Byddai hynny’n “amharu ar y broses o wneud penderfyniadau”, meddai.