Mae gan berchnogion cyfryngau cymdeithasol gyfrifoldeb wrth fynd i’r afael â newyddion ffug am y coronaferiws yng Nghymru.

Dyna rybuddiodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, wedi i fwrdd iechyd orfod wfftio honiadau ffug am ysbyty yn y de-ddwyrain.

Roedd cyfrif ar Twitter wedi honni bod y mwyafrif o welyau yn yr ysbyty yn wag, a bod y meddygon yn chwarae golff am fyd cyn lleied o gleifion ganddyn nhw.

Yn y gynhadledd i’r wasg cododd cwestiwn am gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a Twitter wrth fynd i’r afael â ffug-wybodaeth iechyd.

“Dyw hyn ddim yn ddibynnol yn llwyr ar ‘a yw Llywodraeth Cymru yn sylwi ar bethau’,” meddai. “Mae hyn yn gyfrifoldeb i’r bobol sy’n rhedeg y platfformau cyfryngau cymdeithasol yma.

“Maen nhw’n gwneud mwy nag o’r blaen. Ond dydyn ni ddim mewn gêm fan hyn. Rydym mewn sefyllfa difrifol iawn.

“Felly mae’r cyfrifoldeb yn gyntaf ar y rheiny sydd yn rhoi ffug straeon ar gyfryngau cymdeithasol. Mae pobol sydd yn rhedeg y platfformau yma, ac yn elwa o’r platfformau, hefyd yn rhannol gyfrifol.”

Ategodd ei fod yn “hynod rwystredig” bod “celwyddau” yn cael eu lledu ynghylch yr hyn sy’n digwydd oddi fewn i’r gwasanaeth iechyd.

Edefyn o gelwyddau

Ar fore dydd Mercher cafodd edefyn o negeseuon Twitter eu postio ynghylch Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, gan ddyn sy’n honni ei fod yn dod o ran “wledig a dwyreiniol o Gaint”.

Mae’r neges gyntaf wedi cael ei rhannu dros 3,000 o weithiau, mae’n cyfeirio at “ffynhonnell”, ac mae’n honni bod 200 o 250 gwely’r ysbyty yn wag.

Mae’n glir bod y trydarwr yn sympathetig â theorïau cynllwyn (conspiracy theories) ynghylch yr argyfwng covid – mae llawer dan yr argraff mai twyll yw’ cyfan.

Mewn gwirionedd mae yna 260 gwely yn yr ysbyty hwnnw, ac mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi gwneud sylw am y mater.

Mae llefarydd ar eu rhan wedi dweud bod meddygon yr ysbyty yn hynod o brysur, a bod pob un o’r gwelyau yn cael eu defnyddio.