Mae Prif Weinidog yr Alban wedi annog Albanwyr i osgoi teithio i ardaloedd risg uchel yn Lloegr, gan nodi bod Blackpool yn “gysylltiedig â nifer fawr o achosion coronafeirws yn yr Alban.”

Mae hi hefyd wedi rhybuddio cefnogwyr Celtic a Rangers i beidio teithio i Swydd Gaerhifyn i wylio’r gêm rhwng y ddau dîm mewn tafarndai ddydd Sadwrn (Hydref 17).

Dywedodd y dylai pobol sydd heb archebu taith i’r ardal eisoes beidio gwneud hynny.

Cefnogi Drakeford

Aeth Nicola Sturgeon ymlaen i ddweud ei bod yn cefnogi ymdrech Mark Drakeford i gyflwyno gwaharddiad teithio o ardaloedd risg uchel yn y Deyrnas Unedig.

Mae hi hefyd yn cefnogi galwadau Mark Drakeford i gynnal cyfarfod Cobra “ar frys”, er mwyn “trafod pa gamau pellach allwn ni gyd eu cymryd er mwyn llethu’r feirws.”

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth yr Alban “hefyd yn cymryd pa bynnag gamau sydd eu hangen er mwyn rheoli Covid,” a’i bod hi’n bwriadu ysgrifennu at Boris Johnson i geisio trefnu “trafodaethau brys” ar y mater.

“Dw i angen eich cynghori bod teithiau i Blackpool yn gysylltiedig â nifer fawr o achosion coronafeirws yn yr Alban,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae Blackpool yn le mae pobol yr Alban yn hoffi ymweld â, yn enwedig yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Mae gan nifer ohonom atgofion plentyndod hapus o fynd i weld goleuadau Blackpool.”

“Os gwelwch yn dda, peidiwch â mynd”

Dywedodd Nicola Sturgeon bod 342 o bobol mae Profi a Gwarchod wedi cysylltu â nhw yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi teithio tu allan i’r Alban.

Roedd 252 o’r rhain wedi teithio i rywle arall yn y Deyrnas Unedig, tra bod 94 wedi ymweld â Blackpool.

“Os oeddech chi’n bwriadu teithio o Blackpool a heb drefnu eto, os gwelwch yn dda peidiwch â mynd eleni.

“Os ydych chi’n gwneud hynny, byddwch yn peri risg i’ch hunain ac i bobol eraill.”