Mae arolwg barn ddiweddar yn dangos bod mwy o bobol nag erioed yn cefnogi annibyniaeth yr Alban.
Yn ôl arolwg gan Monitor Gwleidyddol yr Alban Ipsos MORI, a gynhelir mewn partneriaeth â STV News, byddai 58% yn pleidleisio tros annibyniaeth tra byddai 42% yn pleidleisio yn erbyn.
Mae 64% o Albanwyr yn credu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ganiatáu cynnal refferendwm annibyniaeth arall o fewn y pum mlynedd nesaf os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif o seddi yn etholiadau Senedd yr Alban 2021.
Yr SNP yw’r ceffyl blaen ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban fis Mai nesaf:
- SNP: 58%
- Ceidwadwyr yr Alban: 19%
- Llafur yr Alban: 13%
- Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban: 8%
- Arall: 2%
Mae’r arolwg yn dangos mae’r rheswm dros annibyniaeth yw’r diffyg ymddiriedaeth yn San Steffan i weithredu er budd yr Alban.
Mae 72% o Albanwyr yn fodlon gyda’r hyn mae Nicola Sturgeon yn gwneud fel Prif Weinidog, tra bod 76% yn anfodlon â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson.
Yn ddiweddar dywedodd Boris Johnson mai’r undeb yw “un o gyflawniadau mawr” y Deyrnas Unedig.
“Mae gan y wlad hon gryn waith i’w wneud i adfer o’r coronafeirws a dw i ddim yn credu mai nawr yw’r amser, yn blwmp ac yn blaen, i ni gael refferendwm arall,” meddai Mr Johnson.
“Fe gawson ni refferendwm yn 2014, dywedwyd wrthym mai digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth oedd e… gan arweinwyr yr SNP… a dydy chwe blynedd ddim yn ymddangos i fi yn genhedlaeth.”
Yn 2014 pleidleisiodd yr Alban yn erbyn dod yn wlad annibynnol 55.3% i 45.7%.