Mae disgwyl i ganolfan brofi covid agor yn y gogledd orllewin yr wythnos hon, wedi i nifer fynegi rhwystredigaeth ers misoedd lawer bod yn rhaid i bobol Gwynedd a Môn deithio i Lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint ac Aberystwyth yng Ngheredigion am brofion.

Bu pobol sydd yn byw mewn mannau anghysbell a gwledig o’r gogledd orllewin, megis pellafion Pen Llŷn, yn teithio pellteroedd maith i dderbyn prawf.