Mae’r gwahaniaeth rhwng prisiau tai yn Llundain a dinasoedd eraill y mwyaf ers dros 20 mlynedd, yn ôl cwmni dadansoddi eiddo Hometrack.

Dengys y ffigurau fod eiddo ar gyfartaledd yn Llundain oddeutu £437,700, sy’n fwy na 12 gwaith cyflogau ar gyfartaledd, gyda chynnydd o 10% wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r momentwm  yn deillio o’r ardaloedd cymudo fel Barking a Dagenham yn hytrach na rhannau ynghanol y ddinas.

Bydd y cynnydd parhaol yn debyg o effeithio ar brisiau mewn dinasoedd eraill o Brydain, meddai Hometrack.

Mae Hometrack yn dweud fod y cynnydd mewn prisiau tai yn Llundain mewn cymhariaeth gyda dinasoedd rhanbarthol eraill yn fwy nag unrhyw bryd ers y 20 mlynedd diwethaf.

Mae Hometrack yn gweld y bwlch mewn prisiau yn debyg o gynorthwyo dinasoedd eraill i ddenu buddsoddiad newydd.

Dywedodd cyfarwyddwr ymchwil Richard Donnell:   “Mae’r gymhareb rhwng prisiau tai a chyflogau ar ei lefel uchaf. Fe fydd hyn yn galluogi i ddinasoedd eraill ddenu buddsoddiad newydd”