Mae siocled tywyll o Gaergrawnt wedi ennill gwobrau yn y Diwydiant Cosmetig am ei alluoedd ‘atal henaint’.

Enillodd Esthechoc y wobr am y cynnyrch gorau ar gyfer y croen a’r wobr am y cynnyrch cyffredinol gorau yn y seremoni wobrwyo ym Mharis.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gynnyrch croen, does dim angen taenu’r siocled ar eich wyneb, y cwbl sydd angen ei wneud yw ei fwyta a bydd y siocled yn gwneud ei waith i “gynnal iechyd a phrydferthwch y croen o’r tu fewn”.

Mae 72% o’r siocled yn goco ac mae’n cynnwys dau wrthocsidydd pwerus – cocoa flavanols ac astaxanthin carotenoid.

Mae’r gwrthocsidyddion hyn yn gweithio trwy anfon ocsigen i feinwe’r croen, sy’n bwysig iawn i gynnal iechyd y croen yn ôl arbenigwyr.