Mae swyddogion sy’n ymchwilio i dri ymosodiad rhywiol yng Nghaerdydd yr wythnos hon wedi rhyddhau dyn 22 oed ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 40 oed gafodd ei arestio ddoe yn parhau yn y ddalfa.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw’n gwneud “popeth gallan nhw” i ganfod y rheiny oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau a’u dwyn nhw i gyfrif.

“Mae pob adroddiad o ymosodiad rhywiol yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn ac mae Heddlu De Cymru, yn ogystal â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, wedi bod yn gweithio â phartneriaid i wneud y math yma o drosedd yn flaenoriaeth,” meddai’r heddlu.

Ychwanegodd Heddlu De Cymru y byddai swyddogion yn parhau i batrolio canol y ddinas ac ardaloedd cyfagos heno a dros y penwythnos.