Mae nifer y bobl sydd wedi cofrestru i gymryd rhan mewn rasys triathlon yng Nghymru wedi dyblu mewn pedair blynedd, yn ôl ffigyrau diweddar.

Roedd gan Triathlon Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol, 1,300 o aelodau yn 2014 o’i gymharu â dim ond 500 yn 2011.

Bu cynnydd hefyd yn y niferoedd sy’n rasio, gyda 70 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal llynedd a chynnydd o 22% yn y nifer oedd yn cymryd rhan o’i gymharu â blwyddyn yn gynt.

Ac mae’r ffigyrau wedi cael eu canmol gan swyddogion triathlon yn ogystal â Llywodraeth Cymru, sydd wedi pwysleisio’r manteision economaidd o gael ymwelwyr ychwanegol yn dod i Gymru.

Niferoedd cynyddol

Yn gynharach ym mis Medi eleni cafwyd dros 2,360 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn rasys triathlon Ironman yn Sir Benfro a Llanc y Tywod ar Ynys Môn, dros yr un penwythnos.

Roedd hanner y bobl a gystadlodd yn Ironman Sir Benfro yn cymryd rhan am y tro cyntaf, gyda 10% o’r athletwyr yn bobl leol.

“Mae IRONMAN Cymru wedi ennill ei enw da nid yn unig fel un o’r rasys Ironman anoddaf, ond hefyd fel yr un sy’n cynnig yr awyrgylch gorau i athletwyr,” meddau Cyfarwyddwr Rhanbarthol IRONMAN, Kevin Stewart.

Ychwanegodd Tim Lloyd, Cyfarwyddwr Always Aim High, sydd yn trefnu ras Llanc y Tywod Ynys Môn, eu bod wedi gweld “twf rhyfeddol” yn y nifer sydd yn cymryd rhan dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn rhoi cynnig ar y triathlon fel hobi ac fel cystadleuaeth fwy ffurfiol,” meddai Tim Lloyd.

Cystadleuwyr cyfoethog

Yn ôl ffigyrau ar ddemograffeg cystadleuwyr triathlon, mae’r gamp ar ei fwyaf poblogaidd ymysg pobl rhwng 40 a 44 oed sydd ag incwm cyfartalog o tua £45,000 y flwyddyn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud cyfraniad effaith economaidd sylweddol, gyda disgwyl bod ras sydd â 1,000 o gystadleuwyr yn ogystal â’r bobl sy’n gwylio ac ymweliadau paratoadol, yn rhoi hwb o dros £250,000 i’r economi leol.

“Mae’n dda bod y digwyddiadau hyn yn hunangynhaliol ac yn cael effaith gadarnhaol yr economi leol,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

“Mae hefyd yn beth da fod clybiau lleol yn cymryd rhan yn y rasys a bod cymaint o frwdfrydedd amdanynt yn lleol.”