Scott Williams
Ar drothwy’r gêm rygbi fwya’ i Gymru ers blynyddoedd, mae Warren Gatland wedi mynnu na fydd ei chwaraewyr yn targedu Sam Burgess nos yfory, er gwaethaf diffyg profiad canolwr Lloegr ar y lefel rhyngwladol.
Dim ond 112 munud o rygbi rhyngwladol mae Burgess wedi chwarae ers gadael rygbi’r gynghrair i i chwarae rygbi’r undeb yn gynharach eleni – ond mae wedi cael ei ddewis yn y canol gan Loegr i herio Cymru yn Twickenham.
Fe fydd partneriaeth newydd Burgess a Brad Barritt yng nghanol cae Lloegr yn dod benben â Jamie Roberts a Scott Williams nos Sadwrn.
Ac mae’r frwydr seicolegol eisoes wedi poethi, gyda Burgess yn gofyn “Pwy?” pan ofynnwyd iddo beth oedd yn ei feddwl o sylwadau Scott Williams.
Roedd canolwr Cymru wedi dweud y byddai’n well ganddo wynebu Burgess na Jonathan Joseph, y dewis cyntaf o ganolwr i’r Saeson ac sydd wedi anafu ar gyfer y gêm.
‘Pwy?’
Yn gynharach roedd Scott Williams wedi dweud yng nghynhadledd i’r wasg Cymru ei fod yn ei gweld hi’n anoddach amddiffyn yn erbyn rhedwr fel Joseph na chanolwr pwerus fel Burgess.
“Pwy yw hwnnw?” oedd ymateb Burgess. “Oh ie. Oce, ie.”
“Dw i ddim yn credu beth mae pobl yn ei ddweud. Dw i’n credu yn Stuart [Lancaster, hyfforddwr Lloegr]. Dw i’n credu yn beth ddewisodd e.
“Fe wna i adael i fy mherfformiad wneud y siarad ddydd Sadwrn. Dw i ddim eisiau darogan unrhyw beth. Ond fe fydda i’n barod ddydd Sadwrn.”
‘Chwalu nhw i gyd’
Er gwaethaf diffyg profiad Burgess ar y lefel rhyngwladol, dywedodd Warren Gatland na fyddai Cymru’n ei dargedu wrth geisio sicrhau buddugoliaeth allweddol yn eu grŵp Cwpan y Byd.
“Mae’n ddibrofiad yn ei rygbi [undeb], ond nid mewn achlysuron mawr,” meddai hyfforddwr Cymru.
“Mae e’n ddyn mawr, yn chwe throedfedd pum modfedd. Dydych chi ddim yn dewis un person i’w dargedu, rydych chi jyst yn canolbwyntio ar eich hunain. Fyddwn i ddim yn targedu Sam Burgess o gwbl.
“Fe fyddwn ni’n mynd mas i’w chwalu ef fel pawb arall. Dyna’r ffordd i’w gwneud hi. Dydyn ni ddim yn rhwbio’n dwylo gyda’i gilydd yn meddwl bod un chwaraewr yn wendid – nid dyna sut yr ydym ni’n edrych ar bethau.
“Pan mae gennych chi syniad rhy isel am allu rhywun, dyna pryd mae’n dod nôl i’ch brathu chi.”